
Clwb Pêl-droed Clydach Football Club is currently an FAW Tier 3 football club, established in 2021 through the merger of two long-standing and successful clubs – FC Clydach and Clydach Cricket Football Club.
The vision from day one was that there would be much to be gained from uniting and pooling resources. Through forming one club, the village of Clydach and the surrounding area now has a club that provides opportunities for the community from the age of 5 through to senior teams, for boys and girls, men and women.
The club has reached and maintained the highest level available each year, Platinum, from the FAW Club Accreditation Programme and experienced a great deal of success on and off the pitch at junior and senior levels, growing to over 550 active playing members, across 44 teams with over 70 qualified coaches.
The men’s 1st team has now reached the FAW Welsh League, playing in the Ardal SW division, bringing Welsh league football back to Clydach for the first time since 1990. The women’s first team are well placed to challenge for promotion to the Adran league in only their second season.
Clwb Pêl-droed Clydach Football Club’s home ground is Parc Coed Gwilym where we have use of a ground and facilities as part of 125-year lease from the local authority.
Our clubhouse is the Clydach Cricket Club at Waverley Park.
The club is affiliated to the Football Association of Wales [FAW] and the West Wales Football Association [WWFA].
We welcome the support of parents, relatives or friends who may be able to assist us in running and improving our club. All our coaches give up their own time to run training sessions and to coach teams at games on the weekend. Any help that is available for them or the club is always appreciated. If you wish to become involved or can assist the club in any way, please contact the club.
Ar hyn o bryd, mae Clwb Pêl-droed Clydach yn glwb pêl-droed Haen 3 Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a sefydlwyd yn 2021 trwy uno dau glwb hirhoedlog a llwyddiannus – Clwb Pêl-droed Clydach a Chlwb Pêl-droed Criced Clydach.
Y weledigaeth o'r diwrnod cyntaf oedd y byddai llawer i'w ennill o uno a rhannu adnoddau. Trwy ffurfio un clwb, mae gan bentref Clydach a'r cyffiniau glwb sy'n darparu cyfleoedd i'r gymuned o 5 oed hyd at dimau hŷn, i fechgyn a merched, dynion a menywod.
Mae'r clwb wedi cyrraedd a chynnal y lefel uchaf sydd ar gael bob blwyddyn, sef Platinwm, o Raglen Achredu Clybiau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac wedi profi llawer iawn o lwyddiant ar ac oddi ar y cae ar lefel iau a hŷn , gan dyfu i dros 550 o aelodau chwarae yn wythnosol, ar draws 44 tîm gyda dros 70 o hyfforddwyr cymwys.
Mae tîm cyntaf y dynion bellach wedi cyrraedd Cynghrair Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gan chwarae yn adran Ardal De Cymru, gan ddod â phêl-droed cynghrair Cymru yn ôl i Glydach am y tro cyntaf ers 1990. Mae tîm cyntaf y menywod mewn sefyllfa dda i herio am ddyrchafiad i gynghrair yr Adran yn eu hail dymor yn unig.
Maes chwarae cartref Clwb Pêl-droed Clydach yw Parc Coed Gwilym lle mae gennym ddefnydd o faes a chyfleusterau fel rhan o brydles 125 mlynedd gan yr awdurdod lleol. Ein clwb yw Clwb Criced Clydach ym Mharc Waverley.
Mae'r clwb yn gysylltiedig â Chymdeithas Bêl-droed Cymru [CBC] a Chymdeithas Bêl-droed Gorllewin Cymru [WWFA].
Rydym yn croesawu cefnogaeth rhieni, perthnasau neu ffrindiau a allai ein cynorthwyo i redeg a gwella ein clwb. Mae ein holl hyfforddwyr yn rhoi o'u hamser eu hunain i gynnal sesiynau hyfforddi ac i hyfforddi timau mewn gemau ar y penwythnos. Mae unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt hwy neu i'r clwb bob amser yn cael ei werthfawrogi. Os hoffech chi gymryd rhan neu os gallwch chi gynorthwyo'r clwb mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni.